Rhif y ddeiseb: P-05-936

Teitl y ddeiseb: Cynnig Prawf Sgrinio Canser y Coluddyn ar ôl 74 oed

Geiriad y ddeiseb: Mae’r GIG yn Lloegr, yr Alban a Chymru yn cynnig prawf sgrinio Canser y Coluddyn bob 2 flynedd i rai rhwng 60 a 74 oed.

Yn Lloegr a’r Alban, gallwch wneud cais am becyn sgrinio bob dwy flynedd ar ôl 74 oed.  NID yw hyn ar gael i’r rhai dros 74 oed yng Nghymru.

Mae’r ddeiseb hon yn gofyn i Lywodraeth Cymru sicrhau bod profion sgrinio canser y coluddyn ar gael fel y mae yn Lloegr a’r Alban.

Mae dod â’r profion sgrinio i ben yn 74 oed yng Nghymru yn awgrymu nad ydym yn gwerthfawrogi ein henoed yn yr un ffordd ag y maent yn gwneud yn Lloegr a’r Alban.

 


 

 

 

 

1.        Y cefndir

Mae gwefan Bowel Cancer UK yn nodi mai canser y coluddyn yw’r pedwerydd canser mwyaf cyffredin yng Nghymru. Bob blwyddyn, mae mwy na 2,200 o bobl yng Nghymru yn cael diagnosis o ganser y coluddyn ac mae dros 900 o bobl yn marw o’r afiechyd. Fodd bynnag, gellir trin a gwella canser y coluddyn, yn enwedig yn achos diagnosis cynnar. 

Sgrinio yw un o’r ffyrdd gorau o sicrhau diagnosis cynnar o ganser y coluddyn. Dechreuodd rhaglen sgrinio’r coluddyn yng Nghymru yn 2008, gan wahodd dynion a menywod rhwng 60 a 69 oed i anfon sampl o garthion ar gyfer prawf gwaed ocwlt ysgarthol guaiac (gFOBt) bob dwy flynedd. Ym mis Tachwedd 2012, ehangwyd y rhaglen i gynnwys pobl rhwng 60 a 74 oed.

Ym mis Tachwedd 2015, argymhellodd Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU[1] y dylid cynnwys Prawf Ysgarthol Imiwnocemegol (Faecal Immunochemical Test, neu FIT, yn Saesneg) yn rhaglen sgrinio’r coluddyn. Ers mis Ionawr 2019, mae Sgrinio Coluddion Cymru wedi bod yn cynnig y prawf FIT fel rhan o’r rhaglen sgrinio arferol. Yn ogystal â bod yn fwy cywir, mae’r prawf newydd yn haws i bobl ei ddefnyddio ac mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynyddu sensitifrwydd y prawf newydd hwn yn raddol fel y gellir canfod mwy o ganserau.

Ym mis Awst 2018, cynhaliodd Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU adolygiad o raglenni sgrinio’r coluddyn, gan argymell y dylai’r prawf FIT fod ar gael i bobl rhwng 50 a 74 oed. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ehangu’r rhaglen i gynnwys dynion a menywod rhwng 50 a 59 oed erbyn 2023. Mae gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Pwyllgor ar 15 Ionawr 2020 yn nodi bod y risg o ganser y coluddyn yn cynyddu’n sydyn ar ôl 50 oed a bod y dystiolaeth yn dangos y byddai sgrinio pobl yn y grŵp oedran hwn yn arwain at ddiagnosis cynharach o ganserau’r coluddyn, pan fydd triniaeth yn debygol o fod yn fwy effeithiol, gan gynyddu’r tebygolrwydd y bydd cleifion yn goroesi.

Mae mwy o wybodaeth am sgrinio yng Nghymru ar gael ar wefan Sgrinio Coluddion Cymru.

Yn Lloegr, gall pobl sy’n 75 oed neu’n hŷn ofyn am becyn sgrinio yn y cartref bob 2 flynedd. Yn yr Alban, gall pobl dros 74 oed ofyn am becyn sgrinio drwy gysylltu â rhaglen sgrinio canser y coluddyn.

Y ganran sy’n manteisio ar raglenni sgrinio am ganser y coluddyn

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi ffigurau ar gyfer nifer y dynion a menywod cymwys rhwng 60 a 74 oed sy’n preswylio yng Nghymru ac syn manteisio ar raglenni sgrinio am ganser y coluddyn (ar gael fesul yr Awdurdod Unedol a’r Bwrdd Iechyd). Cyhoeddwyd ffigurau ar gyfer blwyddyn ariannol 2018-19 ym mis Ionawr 2020, ac maent yn dangos mai’r ganran a oedd yn manteisio ar raglenni sgrinio yng Nghymru yn 2018-19 oedd 57.3 y cant.

 

 

 

2.     Gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru

Mewn gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Pwyllgor ar 15 Ionawr 2020, dywed y Gweinidog mai’r polisi yng Nghymru yw sgrinio’n seiliedig ar dystiolaeth yn unig, gan ddilyn argymhellion Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU. Ar ôl pwyso a mesur y dystiolaeth sydd ar gael, nid yw’r Pwyllgor Cenedlaethol yn argymell sgrinio’r coluddyn y tu hwnt i 74 oed.

Wrth ymateb i GwestiwnYsgrifenedig y Cynulliad ym mis Mai 2019, dywedodd y Gweinidog fod terfyn oedran uchaf ar gyfer sgrinio’r coluddyn yn seiliedig ar y risg o ganser y coluddyn mewn pobl dros 74 oed heb unrhyw symptomau o’r clefyd, a’r risg i’r unigolion hyn sy’n gysylltiedig â sgrinio, yn enwedig o weithdrefnau diagnostig dilynol fel colonosgopi. Er bod cymhlethdodau difrifol o golonosgopi yn y boblogaeth gyffredinol yn anghyffredin, mae tyllu’r coluddyn yn un o’r cymhlethdodau difrifol posibl. Mae hyn yn digwydd yn ystod oddeutu 1 o bob 1,500 o driniaethau. Gall tynnu polypau neu samplau o feinwe achosi gwaedu trwm yn ystod oddeutu 1 o bob 150 o golonosgopau yn y boblogaeth gyffredinol. Mae’r risg o’r cymhlethdodau hyn yn cynyddu ar ôl 74 oed.

Oherwydd bod risgiau’n gysylltiedig â sgrinio’r boblogaeth, mae’r Gweinidog yn nodi yn ei ohebiaeth fod angen taro cydbwysedd rhwng buddion a niwed y prawf sgrinio a gynigir. Ar gyfer sgrinio’r coluddyn mewn achosion asymptomatig y tu hwnt i’r oedran a argymhellir, mae’r risgiau ychwanegol o ganlyniadau positif ffug ac unrhyw ymchwiliadau dilynol yn gorbwyso’r buddion posibl ymhlith y boblogaeth hŷn. Mae’r Gweinidog yn mynd ymlaen i ddweud na fyddai’n ddiogel nac yn ddarbodus darparu gwasanaethau iechyd y tu hwnt i gyngor Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU, drwy wneud rhywbeth nad yw wedi ei argymell, gan nad oes tystiolaeth y byddai’n dod â mwy o fanteision nag o niwed.

Mae’r llythyr yn nodi bod Pwyllgor Sgrinio Cymru, ym mis Tachwedd 2019, wedi trafod safbwynt polisi Llywodraeth Cymru i beidio â chynnig hunanatgyfeiriadau at raglen sgrinio’r coluddyn gan bobl dros 74 oed. Cytunodd y Pwyllgor fod angen eglurhad ynghylch safbwynt Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU cyn ystyried hunanatgyfeiriadau gan bobl dros 74 oed eto. Mae Cadeirydd Pwyllgor Sgrinio Cymru wedi ysgrifennu at Gadeirydd Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU i ofyn am yr eglurder hwn. Pe bai Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU yn argymell hunanatgyfeiriadau gan bobl dros 74 oed, neu unrhyw gamau i newid y terfyn oedran uchaf, mae’r Gweinidog yn nodi yn ei ohebiaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn trafod sut y gellir cyflawni hyn yng Nghymru.

Gall unrhyw un dros 74 oed yng Nghymru drafod eu pryderon â’u meddyg teulu, a fydd yn penderfynu a oes angen ymchwilio ymhellach. Dylai unrhyw un sydd â symptomau canser y coluddyn gael eu hatgyfeirio ar gyfer ymchwiliad brys yn unol â’r broses atgyfeirio frys ar gyfer canser posibl.

Sgrinio mewn gwledydd eraill

Yn ei ohebiaeth, mae’r Gweinidog yn cyfeirio at y ffaith bod hunanatgyfeiriadau at raglen sgrinio’r coluddyn gan bobl dros 74 oed wedi’u caniatáu yn Lloegr a’r Alban, gan gydnabod bod anghydraddoldeb o ran y gwasanaeth a ddarperir. Mae’n mynd ymlaen i ddweud bod rhaglenni sgrinio’r coluddyn yn y mwyafrif o wledydd yn sgrinio hyd at 74 oed yn unig. Ni chaniateir hunanatgyfeiriadau y tu hwnt i’r oedran hwn am yr un rhesymau ag yng Nghymru. Nid yw Gogledd Iwerddon, Seland Newydd nac Awstralia yn caniatáu hunanatgyfeiriadau dros 74 oed.

 

3.     Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ymchwiliad undydd i wasanaethau endosgopi yng Nghymru, gan gyhoeddi ei adroddiad ym mis Ebrill 2019. Mae Adran 6 yn trafod ymdrechion i gynyddu nifer y bobl sy’n manteisio ar raglen sgrinio’r coluddyn. Yn ei hymateb  i’r adroddiad, derbyniodd Llywodraeth Cymru bob un o argymhellion y Pwyllgor. O ganlyniad i argymhelliad y Pwyllgor, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Raglen endosgopi genedlaethol: cynllun gweithredu 2019 i 2023 ym mis Hydref 2019.

 

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.

 

 

                                                                                                                                                                               



[1]Mae Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU yn cynghori Gweinidogion a’r GIG ym mhedair gwlad y DU am bob agwedd ar sgrinio’r boblogaeth ac yn hyrwyddo’r gwaith o gynnal rhaglenni sgrinio.